91Fans

En

Newyddion 91Fans

Lansiad ein Prentisiaethau Digidol

29 Medi 2022

Fel coleg sy’n cydnabod pwysigrwydd sgiliau seiber a’u lle yng ngweithlu’r dyfodol, rydym yn falch o gyhoeddi cyflwyniad ein prentisiaethau digidol cyntaf, sy’n debygol o fod yn ddewis poblogaidd ymysg ein myfyrwyr sy’n ddeallus o ran technoleg.

Darllen mwy

Dewch i wneud eich gorau glas yn 91Fans

21 Medi 2022

Rydym yn croesawu carfan newydd sbon o ddysgwyr uchelgeisiol i 91Fans fis Medi. O unigolion sydd wedi gadael yr ysgol i ddysgwyr sy'n oedolion, rydym yn edrych ymlaen at weld cymuned amrywiol yn ymuno â'n coleg i astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser, yn ogystal â chyrsiau ar lefel brifysgol. Ymunwch â ni i gymryd y cam nesaf ar eich taith addysgol!

Darllen mwy

91Fans yn ymateb i farwolaeth Brenhines Elizabeth II

9 Medi 2022

Yn dilyn y cyhoeddiad o’r Palas am farwolaeth EM y Frenhines Elizabeth II, mae 91Fans yn estyn cydymdeimlad ar farwolaeth y frenhines sydd wedi teyrnasu y hiraf yn hanes Prydain.

Darllen mwy
GCSE results day 2022

Dosbarth 2022 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus

25 Awst 2022

Llongyfarchiadau i'r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw! Yma yn 91Fans, rydyn ni'n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2022. Eleni, rydyn ni wedi gweld cyfradd lwyddo arbennig o 92.5% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 85.4% ar gyfer Saesneg TGAU hefyd.

Darllen mwy
Gold A B balloons

Perfformiad rhagorol a graddau gwych - diwrnod canlyniadau 2022

18 Awst 2022

Am ddiwrnod y bu hi i 91Fans! O’r diwedd mae’r holl ddisgwyl ar ben wrth i ddysgwyr a staff ddathlu blwyddyn anhygoel arall o ganlyniadau Safon Uwch a BTEC yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru.

Darllen mwy
WorldSkills UK National Finals 2022

Dysgwyr 22 yn cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2022

13 Gorffennaf 2022

Mae cystadlaethau hir ddisgwyliedig WorldSkills UK yn cael eu cynnal unwaith eto ar gyfer 2022, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod 91Fans ar frig bwrdd arweinwyr Cymru eleni, wrth i ddysgwyr 22 gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK!

Darllen mwy