91Fans

En

CompTIA CompTIA CloudNetX

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Cwrs a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad mewn cyfrifiadura cwmwl, rheoli seilwaith a rhithwiroli, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ag amgylcheddau cwmwl hybrid.

Mae'n cwmpasu dylunio gwahanol fathau o bensaernïaeth rwydwaith ddiogel, gweithredu egwyddorion Dim Ymddiriedaeth, rheoli manylion adnabod a mynediad, monitro rhwydweithiau, perfformiad, awtomatiaeth a datrys problemau.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd o ddysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru ac sy'n gyflogedig. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

... gweithwyr proffesiynol profedig sy'n meddu ar o leiaf 5 mlynedd o brofiad fel pensaer systemau, rhwydweithiau, rhwydweithiau cwmwl, isadeiledd neu fentrau.

... unrhyw un sy'n meddu ar dystysgrifau sylfaenol megis Network+ a Cloud+. Anelir at y rheini sy'n barod i weithio â rhwydweithiau hybrid cymhleth lefel menter.

Cynnwys y cwrs

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ystafell ddosbarth rhithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod

Cynlluniwyd ardystiad CloudNetX CompTIA i ddarparu gweithwyr proffesiynol yn y maes TG â gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol mewn cyfrifiadura cwmwl. Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu egwyddorion pensaernïaeth cwmwl, modelau gweithredu, fframweithiau diogelwch a ffurfweddiad rhwydweithiau, gan sicrhau bod dysgwyr yn ennill arbenigedd ymarferol mewn rheoli amgylcheddau cwmwl.

Byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol mewn rheoli seilwaith y cwmwl, gan gynnwys graddadwyedd, rhithwiroli ac awtomeiddiad. Mae ffocws cryf ar arferion gorau o ran diogelwch yn sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol ddiogelu systemau cwmwl rhag bygythiadau seiber. Yn ogystal, byddwch yn ennill dealltwriaeth o gydymffurfiaeth, llywodraethu a rheoli costau mewn ecosystemau cwmwl.

Ar ôl cwblhau ardystiad CloudNetX CompTIA, bydd gweithwyr proffesiynol yn barod i ddylunio, gweithredu a rheoli atebion ar y cwmwl sy'n cyd-fynd ag anghenion busnes, gan eu gwneud yn asedau gwerthfawr yn y diwydiant cyfrifiadura cwmwl sy'n esblygu'n gyflym.

Gofynion Mynediad

O leiaf deg mlynedd o brofiad yn y maes TG a phum mlynedd o brofiad mewn rôl pensaer rhwydweithiau, gyda phrofiad mewn amgylchedd hybrid cwmwl. Profiad o Network+, Security+, and Cloud+ neu gyfwerth.

Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd a chyfrifiadur Windows gyda gwegamera/microffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
Ble alla i astudio CompTIA CompTIA CloudNetX?

MPLA0199AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.