IMI Achrediad mewn Paent - Uwch Dechnegydd Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£695.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Yn gryno
Mae Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI) yn cydnabod cymhwysedd presennol gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu moduron a'u hymrwymiad i god ymddygiad moesegol. Er mwyn ennill achrediad IMI, mae'n ofynnol i chi basio cyfres o fodiwlau gwybodaeth a sgiliau ymarferol (sy'n rhan o'r cwrs hwn) ar Gampws Dinas Casnewydd (Canolfan gymeradwy ar gyfer cyrsiau IMI).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n dymuno bod yn rhan o IMI
...peirianwyr sy'n dymuno cael cydnabyddiaeth gan gorff dyfarnuÌý
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
- Polisio Paneli (Presennol) AOM 014
- Adnabod Lliw ac Amrywiad Lliw AOM 015
- Paratoi Arwyneb AOM 016
- Arwyneb Parod - Fflatio AOM 017
- Selio Paneli AOM 018
- Paratoi'r Panel (Panel Newydd) AOM 019
- Paent Preimio Gwlyb ar Wlyb (taenu) AOM 020
- Paent Lliw Perl Tri Cham (taenu) AOM 021
- Diffygion Paent a Gweithdrefn Gywiro AOM 023
Unwaith y byddwch wedi pasio'r holl Fodiwlau Canlyniad wedi ei Asesu (AOM) o fewn llwybr penodol byddwch yn cael Cerdyn Adnabod IMI (cerdyn adnabod llun) sy'n ddilys am gyfnod o dair blynedd.
Byddwch hefyd yn cael eich cydnabod drwy gofrestr gyhoeddus ATA sy'n caniatáu i ddefnyddwyr edrych ar dechnegwyr sy'n gymwys ar hyn o bryd.
Asesu
Bydd hyn fel rheol yn asesiad dau ddiwrnod, a fydd hefyd yn cynnwys arholiad amlddewis ar-lein.
Ymhlith y buddion i unigolion a chyflogwyr mae'r canlynol:
- Mae IMI yn rhoi sicrwydd bod sgiliau a gwybodaeth yr unigolyn achrededig wedi cael eu hasesu yn erbyn y safon a gytunir gan y diwydiant
- Adolygir safonau IMI yn rheolaidd i alinio â thechnoleg, methodoleg a deddfwriaeth gyfredol
- Mae unigolion wedi eu hachredu gan yr IMI yn cytuno i'r cod ymddygiad - ac wrth wneud hynny, maent yn ymrwymo i weithio'n foesegol yn ein diwydiant
- Mae IMI yn darparu 'meincnod ar gyfer sgiliau' y gellir ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi a recriwtio. Mae'n llwybr datblygu cydnabyddedig i unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd.
- Mae IMI yn darparu asesiad teg ond trwyadl. Sicrheir ansawdd a chysondeb y broses asesu drwy ddefnyddio sefydliad dyfarnu a gydnabyddir yn genedlaethol
Ìý
Gofynion Mynediad
Dylech fod yn gweithio yn sector atgyweirio damweiniau'r diwydiant a meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i sicrhau gorffeniad perffaith wrth baratoi a gorffen paneli (hen a newydd) i gyd-fynd â phaent presennol y cerbyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI) yw'r gymdeithas broffesiynol a'r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiant Manwerthu Moduron.ÌýRhaid i chi gytuno i God Ymddygiad IMI, a chydymffurfio ag ef.
I gynnal eich achrediad a phrofi cymhwysedd presennol, rhaid i chi gael eich ail-asesu bob tair blynedd.
NCCE0474AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr